TAITH Y PERERINION
FelRh072Pererin.doc
20.08.02
3.9.02F1
Dydd Mawrth 13ydd o Awst, a’r niwl yn ddistaw godi o’r Cwm- y cwm tu allan i’r
byd-gwelwyd rhes o geir yn heidio i faes parcio Croesor. Disgynyddion Lewis
Mordecai y gwehydd a’i orwyrion Edwart, John a William Lewis oeddynt. William
(1748 – 1825) oedd arloeswr yr Ysgol Sul gyntaf ym Mhlwyf Llanfrothen - tua
1787. Cynllun y diwrnod oedd ymweld a thri o safleoedd cysegredig i’r hen deulu
h.y, Ty Newydd Cae Glas; Hafoty a’r Garreg Fawr yna rhodio’n ôl mewn amser,
dyfeisio a cheisio dehongli ag egluro’r gorffennol pell i’r ddeuddegfed
genhedlaeth- rhai ohonynt sydd yn dal i fyw yng Ngroesor heddiw.
Er fod yna gofnodion am y Mordecaiaid yn gwehydda dair canrif yn ôl – 1696,
canolbwyntio ar amser ddwy ganrif yn ôl oedd y disgynyddion, ar y cyfnod byr
1780au i 1820au Yn y cyfnod 1773 i 1798 ganwyd i Margaret Lloyd a’i gwr William
Lewis 13 o blant a sefydlwyd ysgol Sul yn Hafoty tua 1787. O’r teulu mawr yma bu
farw rhai yn ifanc, collwyd eraill o hanes, ond daeth rhai yn enwogion e.e
Griffith Dafydd Cynfal Fawr/Felenrhyd, William Dafydd Gelligoch Isaf/Brynderwen;
Richard Owen (Glaslyn ) ; Humphrey Jones (Bryfdir); a’r Parch. D.D. Williams
,Garth Llwynog a gweinidog Methodistiaid ym Mheniel, Llan Ffestiniog (1895) a
Manceinion wedyn – ac eraill, debyg.
Wedi i William Lewis adael yr ardal gwelwn ei fab, Dafydd Willliams a’i deulu yn
byw yn Garreg fawr (cydrhwng 1810 a 1812 ganwyd Lowri a William yno), wedyn yn
Hafoty, tua 1815, ac yn canlyn ymlaen gyda’r Ysgol yn Nhy Newydd Cae Glas; hyd
ei farwolaeth, yn wr ifanc 36 , yn 1821. Yma yn Nhy Newydd y ganwyd Griffith
Dafydd, Cynfal/Felenrhyd yn 1816- hen,hen,hen....daid i’r mwyafrif oedd ar y
bererindod .(Yma hefyd ganwyd Bryfdir yn 1867). Yn y cyfnod 1788 i 1822 dylid
dal sylw i J.R.Jones Ramoth, yr enwog ddiwynydd Bedyddwyr Albanaidd,letya yn
Hafoty a’r Garreg fawr- megis â’r parad â’r teulu.
Wedi i bawb gyrhaedd (tros gant i gyd) ag am tua hanner awr yn dyfalu pwy oedd
yn perthyn i pwy ag ar pa gangen neu frigyn deuluol oeddynt yn clwydo,
cychwynwyd ar y daith- fel gyrr farus ag afreolus o ddefaid – a’r bugail,druan,
gyda’i chwiban a’i gwn defaid diwerth!. Dringo yn serth ag i fyny heibio Capel
Croesor ar hyd yr hen ffordd Rufeinig at Ffynnon Helen –lle y gwnaeth rhai
ddymuniadau. Nepell daethant at y gamfa ger Ty Newydd...Disgrifiwyd yr
amgylchedd ar y pryd, y môr â arferai ddod at Llanfrothen a Phont Aberglaslyn
newydd ei ddofi gan Madog a’i Gob - yn 1811. Digon o lwybrau ond fawr o ffyrdd,
dim trennau a cheir , prin ysgol neu lyfr; ond digon o blant.
Saif Ty Newydd hanner y ffordd i fyny’r boncen â wynebai’r haul ac a edrychai
dros y Cwm ar y ffordd am Dany bwlch a heibio Penrallt. Ni wyddys sawl acer oedd
daliad y tyddyn ond perthyn i stad fechan Caeglas oedd debyg ar y pryd. O
amgylch y ty ‘roedd olion cadlas neu ardd. Ar ochor ogleddol yr adeilad gwelid
hen feudy neu stabl.yn gogwyddo ar y ty. Tebygol i’r Hen Gaeglas, sydd ganllath
yn is i lawr, gael ei defnyddio fel beudy a thy gwair.
Ers canrif bellach, mae’r hen Dy Newydd yn furddun ac wedi ei orchyddio â choed,
brwyn a rhedyn Wrth edrych o du allan ar yr adfeilion, dychmygir yr adeilad gyda
thô gwellt, un simna ar y talmaen gyda waliau cerrig sychion - bron lathen o
drwch, gyda ffenestri bach. O fynd i mewn drwy’r drws isel i’r ystafell fyw -
dim ond rhyw ugain troedfedd sgwar - dychmygir weld crôg lofft, llawr o grawiau
neu bridd, bwrdd, cadair freichiau, setl, tân mawn a bara ceirch o amgylch.
Yn y 1920au,dyma fel y disgrifia Bryfdir y lle yn ei gan “ Bro fy Mebyd”
(tud.101):-
Ffynnon Helen sydd yn gwenu
Drwy ei chwsg wrth droed y rhiw
Croesaf y gamfa, a brig y Maen Brâs
Wynebaf adfeilion Ty Newydd, Caeglas
Ty newydd a hen ydoedd hwn cyn i’nhaid
Roi llechi i’w doi yn lle crinwellt a llaid
Ei weld yn gyfanedd a wnaf, er mor freg
Yw muriau y bwthyn fu unwaith yn deg
A gormod o orchest i ddanadl na drain
Yw cuddio’r gogoniant fu gynnau mor gain
Disgrifiwyd bwysigrwydd ac unigrwydd y murddun hwn i fodolaeth y mwyafrif a oedd
yn bresennol.
Diolch i Mrs Giovanna Bloor,sydd yn byw yng Nghae Glas, am ei brwdfrydedd â
hanes Croesor, a’i chymorth yn clirio’r llwybr i Dy Newydd Cae Glas.
Y lle cyfarfod nesaf oedd Hafoty,sydd rhyw filltir i’r de o Groesor,oddiar y
ffordd gul â arwenia am Dan y Bwlch. Croeswyd afon Maesgwm ag i fynny rhiw serth
i gyfeiriad y goedwig. Saif y ty annedd yma o’r neilltu i’r goedwig yn wynebu
golygfa fendigedig am Borthmadog. Daliad bach oedd beth amser yn ol, rhyw 990 o
droedfeddi uwch y môr. Debyg fod y ty yn dyddio’n ol i amser y Tuduriaid a
hwyrech ei fod yn ddau neu dri ty , gweithdy gwehydd neu feudy, ar wahanol
dro..Heddiw mae’n gartref a thy cysurus i Lwsia ag Emyr – gweler y llun. Er ei
fod yn lle gweddol unig, fel soniwyd uchod mae’r lle yn lle unigrwydd i’r teulu
a ddechreuodd yr Ysgol Sul yma.
Hebryngodd Lwsia ni i mewn i’r ty hynafol ag anghyffredin hwn a dangosodd y
llythrenau WL a’r dyddiad 1777 wedi ei naddu’n y traws derw uwchben yr hen le
tân .
Ceiswyd disgrifio a dychmygu’r tai yma yn Hafoty, 200 mlynedd yn ol, gyda
William Lewis ynghyd â’i deulu mawr a’i ysgol ar y Sul, Owen Sion a’i deulu’n
gwehydda, ac yn rhyw gornel, J.R.Jones yn lletya, darllen, cyfathrachu, paratoi
pregethau, a doctora. Wedi hir oedi ac ymdroi, planwyd coeden i gofio’n cyndadau
ac ymweliad eu disgynyddion yn 2002. Bywiog oedd canu’r hen ffefryn, “Calon
Lan”, cyn gadael. Bwriedir,cyn hir, rhoi carreg i nodi’r fan lle cynhaliwyd yr
ysgol gyntaf yn y plwyf.
Ffarweliwyd â Hafoty a throi am i lawr. Croeswyd cae,nant a chamfa cyn mynd i
dwllwch y coed pinwydd, ag ymuno â’r llwybr a arweinia am Garreg Fawr. Ar ol byw
yn Hafoty hyd tua 1805 symudodd J.R.Jones i fyw yma, hyd ei farwolaeth yn
1822,fel y gwelwyd ar y garreg las sydd ar flaen y ty.Yn y cyfnod yma ‘roedd mab
W.Lewis,Dafydd William a’i deulu yn byw yma hefyd. Fel soniwyd, yma y ganwyd
William Dafydd, Bryn Derwen a’i chwaer hynaf,Lowri. Diolch i Mrs Pauline Cobbet
am ei
charedigrwydd.
Erbyn hyn mi ‘roedd traed rhai o’r pererinion yn barod i eistedd i lawr ond
‘roedd hanner milltir arall i fynd nes cyrraedd y Ring yn Llanfrothen. Yno
gwelwyd arddangosfa dda o ysgrifau, coed teuluol, ewyllysiau, cofnodion ag
ysgrifau am hanes y teulu dros dair canrif o’r Mordecai â gasglwyd gan amrhyw
o’r teithwyr. Er enghraifft, gweler lun o Griffith Dafydd , yn ei hen ddyddiau,
gyda’i deulu yn Felenrhyd Fawr - tua 1890
I goroni’r cwbwl ‘roedd gwledd arall wedi ei pharatoi gan Nici ( un o’r
disgynyddion) ag Emlyn., ei gwr. Cafwyd diwrnod a chyfarfod fyth gofiadwy wrth
droedio’n ôl ar hyd hen lwybrau hanesyddol Croesor. Diolch hefyd i bawb o’r
pererinion a ddaeth i fwynhau ei hunain, ag i wneud y diwrnod mor ddiddorol a
llwyddianus.
Sheelagh, Edgar a Robin.
www.doctor.gp/Felenrhyd