Stori Job ar Y Cefn |
Tir cefn-dau-ddwr uchel,(1,000’) cydrhwng ffordd Y Bala B4391,ffordd Dolgellau A470 a Sarn Helen, ar gyrrau Llan Ffestiniog, ydyw Y Cefn (OS 710 410). Er cyn cof,perthyn i’r Goron debyg mae’r mwyafrif o’r tir gyda hawl i borri anifeiliaid, torri mawn a chloddio,hwyrech yn dal i fod. Ers dros ganrif mae yno gwrs golf.Hefyd mae ynno bump o hen annedd dai e,e daliad Ty’r Cefn,Ochr y Cefn. Penffridd, Ty Unos a bynglo Job. Mae ynno dri o lynnoedd ac ambell dwll cloddio cerrig neu marl.Croesir y tir â llwybrau a ffyrdd troliau Mae rhannau o’r ucheldir wedi ei gau a’i drin - tua 1800 debyg. Gelwir y man hefyd yn Pen Cefn a Chefn Bodloesygad. Yn fyr,canolbwyntio ydwyf ar deulu Lewis cyndadau a disgynyddion Job,ein gwrthrych,ei helyntion a’r cysylltiadiadau a’r ardal dros y ganrif 1840 i 1940. Heddiw myrddynod marw yw’r mwyafrif o’r tai annedd. ‘Roedd Ty’r Cefn yn ddau ran gyda un corn yn y canol a daliad o tua 15 acer o dir-pedwar cae wedi ei drin. Yno ym 1841 gwelwn Lewis Job a’i deulu ac ym 1871, teulu ei fab,Evan Lewis 49; Ellinor 49;(y tad a’r fam); y plant – Solomon 20 oed; Elinor 16;Ann13; a Lewis Job Lewis, ein gwrthrych,yn 8 oed wedi ei eni ar 21.04.1862-yr iengaf o wyth o blant. Erbyn 1900 ‘roedd yr olaf o’r Lewisiad wedi gadael Ty’r Cefn. Ynno’n byw oedd William Edwards (mab Mary Price Caegwair-perthynas) Yma ganwyd ei ferch Esther,sydd yn tynnu at ei chant oed ac yn byw heddiw yng Nghalifornia Yn y tridegau,arferwn i fyw yn Nhy’n y Ffridd a daliau fy nhad dir Ty’r Cefn.Fel hogyn ysgol gyda fy mrodyr a chwiorydd, cofiaf yr amser ar y ffarm yn helpu Nhad i dorri’r gwair ar y lawntiau’r golff. Amser difyr dibryder,dim radio,teledu,cerbyd ffon na phapyr newydd dim ond ty mwyn a tan mawn. Un diwrnod o haf, a ninnau yn brysur gyda’r gwair stopiodd car mawr nobl-‘open top’ ar draws yr adwy yn mynd i’r Cefn ac i’r cae gwair. Mae’n amlwg nad oedd yn un o’r cyffinaiau gan nad oedd ond dyrnad o gerbydau yn y plwyf i gyd, ar mwyafrif o rheini yn Austin 7s. Rhyw Sais difeddwl debygai fy nhad. Yn y cerbyd ‘roedd gwr a gwraig- cyfforddys yr olwg- bobl ddiarth-a bobl fawr --fel ‘rhoeddem ni’n dweud ac yn galw ‘fisitors’ Yfo mewn ‘Plys Ffôrs’ a hithau mewn het fawr ar ei phen a chroen llwynog bach am ei gwddw -er ei bod yn haf!. Gwelaf y ddau rwan. Fel yr oedd fy nhad yn mynd ato- i ddweud ei feddwl - estynodd y dyn ei law allan a chofleidiodd fy nhad mewn cymraeg gloew ‘Stiniog. Dywedodd ei fod o yn dwad o Lerpwl ond ei fod wedi ei eni a’i fagu yn Nhy’r Cefn -ei enw oedd Lewis Job Lewis. Cofiau fy nhaid, sef Dafydd Price, Brongoronwy a fy nhad, pan fel yn blentyn.Fel pob Cymro dechreuoedd holi a scwrsio a phwy oedd ei hen deulu yn ardal Ffestiniog, -Pierce Jones, Ann Lewis,ei chwaer, a’i ‘gefnder’ Ifan . Ychydig feddyliau fy nhad, ar y pryd, fod gwraig gyntaf Job a chysylliadau pell iddo - trwy deulu Rhoswen a Dolrhiwfelen (Ffestinfab). ‘Roedd gan yr ‘hen Job’-fel ‘roeddem ni’r plant yn ei alw- stori hir a diddorol iw ddweud. Stori wir yrr, am ei fachgendod yn Nhy’r Cefn a sut y bu i fuwch ei ddysgu a’i droi yn ‘ddoctor’ cefnog yn Lerpwl. Dyma ei stori. Tua 1875,’ roedd un o wartheg Ifan Lewis -tad yr hen Job- yn sâl y meudy Ty’r Cefn -ar ôl dod a llô. Ni allai’r fuwch sefyll ar ei thraed a bu raid ei chodi a rhaffau neu byddai perygl am ei bywyd. Arferai hyn ddigwydd yn amal ar ôl lloi. Clwy llaeth ei gelwir (hypercalcaemia).Diffyg fod rhy ‘chydig o galcium yng ngwaed y fuwch- y calcium wedi mynd i dyfu esgyrn y llo. Pryderid am gyflwr y fuwch a chadwodd ei dad Job o’r ysgol, i ofalu am y fuwch –tra roedd ô yn y chwarel. Diddorai Job mewn llysiau a darllenodd nad oedd hyn yn digwydd i anifeiliad a gedwid yn y gwyllt. Penderfynodd Job y buasai’r fuwch yn reddfol yn medru ffeindio ei meddigyniaeth ei hun a mentrodd ollwng y fuwch i lawr. Mis Mehefin oedd a’r borfa’n las ond snwyro yma ac acw a wnaeth y fuwch ac wrth graig fach porodd y glaswellt i’r pridd. Aeth y fuwch i ran arall o’r cae a gwnaeth yr un peth. Cafodd Job y fuwch yn ol i’r beudy a’i chodi â’r rhaffau a’r pwlis. ‘Ymorolodd Job dorri’r ddwy dywarchen a’i rhoi yn yr ardd iddo gadw ei lygaid arnynt. Ymhen amser gwellhaodd y fuwch. Gan fod tir Y Cefn yn uchel golchai’r glaw y calch o’r tir.Rhywsut ‘roedd yn amlwg i Job – a oedd yn ‘switched on’ -fod y planhigyn neilltuol yma yn dal y calch rhag ei gannu gan y glaw. Danghosodd Job y ddwy graig fach i ni - un i bob ochr y ty, wrth y wal. Aeth ymlaen i egluro fel y daeth i ymddiddori ag i astudio planhigion yn gyffredinol a’i fod wedi helpu amrhyw fam feichiog a gwynai o’r un fath o glwy a’r fuwch. Dywedodd ei fod yn berchen ar fusnes llysieol yn Lerpwl a Manceinion. Y cwbwl wedi cychwyn o hyn a ddysgodd buwch ei dad iddo. Tua 1900, debyg ar ol marw ei dâd, aeth Job i Lerpwl, at ei frawd Solomon Lewis, â chyfarfu â Alice a hannai ô Lan Ffestiniog. – yn un ô ddeuddeg ô blant Kitty a Edward Jones, Ty Clwb, a chwaer ieungaf Ffestinfab, Dolrhiwfelen. ‘Roedd Alice yn perthyn i Pierce Jones UH,ac eraill;a Job i Syr Ifan Jones, Rhosydd – gwelir isod. Bu I Alice a Job bedwar o blant sef Eddie, Catherine,John a Buddug Gweler cyf. 3Bu farw Alice yn 1922 yn 60 oed a chladdwyd hi yn Mynwent Allerton, Lerpwl. Pan ddaeth Job i Dy’n y Ffridd y diwrnod o hâf hwnnw yn 1937 gyda’i ail wraig Ettie,ei gyn ysgrifenyddes oedd. ‘Roedd Job tua 75 oed a debyg wedi ymddeol. Pwrpas ymweliad Job oedd ei fwriad i adeiladu ty haf ar Y Cefn ac eisiau fy nhad ei adeiladu iddo. Rhentodd Job ddarn o dir ffridd Pengwern gan y brodyr Hayward. Nid oedd yn hollodd ar safle Ty’r Cefn ond nepell oddiwrth y ffynon. Adeilad pren fel un yn perthyn i’r fyddin oedd a chofiaf helpu fy nhad i lwytho darnau o’r sied bren ar y drol. Roddodd fy Nhad ffens o gylch y lle a phlannodd goed yno. Llain o dir hir ar lecyn gogoneddus,yn gwynebu’r Moelwyn a dyffryn Maentwrog oedd gyda’r adeilad yn y pen gorllewinol ar ffynon yn y dwyrain (gweler y map). Fel plentyn arferai Job gario dwr o’r ffynnon rhyw 200 lath o Dy’r Cefn ond nid oedd hanes ohoni erbyn hyn. Wedi i Ellis Thomas, Tynyfedwen, y saer, wneud cist dderw gosododd fy nhad y gist yn y lle ble ‘roedd Job yn dwyn o’i go. Yn anfodus sych oedd y gist erbyn y bore.Ofnid fod y ffynnon wedi hen ddiflannu. Tranoeth daeth Job at fy nhad a gwen fawr ar ei wyneb. Breuddwdiodd weld ei dad yn sefyll ychydig lathenni o’r gist. Ail osodwyd y gist nepell o’r man cyntaf ac erbyn y bore ‘roedd y gist dderw yn llawn ô ddwr cleuar. Well ! dyna chi stori wir, Job. Arferai Job ag Ettie Lewis fynychu’r ty haf yn amal ond bu farw Job yn ystod y rhyfel a phrynnodd Ciss, fy nhyfnither, ag Ellis John ( rhieni Eurwyn Jones) yr adeilad. Heddiw nid oes dim ô ol o’r pumed ty annedd ar Y Cefn. Pryd y deuai i’r Llan ar ei wyliau byddai’n ymweld a Ann Lewis ei chwaer ac ‘Ifan fy nghefnder’ fel dwedai Job- Syr Ifan Jones,Rhosydd oedd ô. Nid yw y cysylltiad teuluol cydrhwng y ddau wr yn eglyr. Mae hanes teulu Job yn o gywir a chryno. ‘Roedd Ifan Jones yn 5 mlynedd yn iau na Job. Mab i Ellin Jones oedd Ifan a magwyd ef yn Ty Mawr, Pant Llwyd- nepell o Dy’r Cefn yn nghartref ei nain a’I daid Ann & Morris Jones -saer maen- gwelir y canlynnol yn ystadegau 1881 “Morris Jones widower 64; Ellin Jones unmarried 38; Evan Jones grandson 13” Ganwyd Evan ar 6ed.02.1868. Ar y 12fed o Chwefror dododd Ellin Jones,ei fam, ei marc ar ei gofrester genni. Ni welir ddim manylion am dad y baban. Gallwn ofyn ar ol pwy y galwyd y baban yn Evan,os ar ol rhywun o gwbwl, ac sut oedd ô yn ‘gefnder’ i Job. Gelwid tad a brawd Job yn Evan. Ganwyd Ellen Jones ac Evan Lewis ( ieng.-a brawd Job) yn 1843. Heddiw bellach,nid oes ateb clir i’r cwestiwn “beth oedd y cysylltiad cywir cydrhwng y ddau ‘gefnder?” Ta waeth, cododd Job ac Evan i fynny o gychwyn syml yn ‘Stiniog. Job yn Lerpwl fel llysiewr medrus a chyfforddus. Ond yn ‘Stiniog y cododd Syr Evan i fynny fel peirianydd chwarel enwog ac ustlys i fywyd cyhoeddus Sir Feirionydd.
Cyf
R.Price. |
|